SL(6)435 – Cod Ymarfer Rhan 8 – Rôl y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Cefndir a Diben
Deddfwyd Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) i nodi’r wybodaeth benodol sydd i’w chynnwys yn adroddiadau blynyddol awdurdodau lleol sy’n ymwneud â’u swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, a phenawdau yr oedd yr wybodaeth ofynnol i’w chynnwys odanynt.
Caniateir diwygio’r Cod Rhan 8 sy’n rhoi’r cyfle i ddyroddi canllawiau newydd i awdurdodau lleol i’w helpu i lunio eu hadroddiadau blynyddol gan eu cysoni â’r adroddiad hunanasesu corfforaethol sy’n ofynnol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) (Diwygio a Darpariaeth Drosiannol) 2023 yn diwygio Rheoliadau 2017 i ddiweddaru’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn adroddiadau blynyddol a phenawdau y mae’r wybodaeth ofynnol i’w darparu odanynt. Bydd hyn yn cyd-fynd â gofynion y Cod Rhan 8 diwygiedig.
Y weithdrefn
Drafft Negyddol.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Cod gerbron y Senedd. Os, o fewn 40 niwrnod (ac eithrio diwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y gosodir y drafft, bydd y Senedd yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r Cod drafft, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dyroddi’r Cod.
Os na wneir penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r Cod (ar ffurf y drafft), a daw’r Cod i rym ar ddiwrnod a bennir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.
Gwaith craffu o dan Reol Sefydlog 21.7
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn cysylltiad â’r Cod hwn.
1. Ar ddechrau’r Cod, mae datganiad yn nodi bod y Cod hwn yn dirymu’r Cod Rhan 8 a ddyroddwyd yn ôl y testun Saesneg “in March 2016”. Fodd bynnag, yn y testun Cymraeg, mae’n nodi bod y Cod blaenorol wedi’i ddyroddi “ym 16 mis Mawrth 2016” sy’n cynnwys “16” ychwanegol ond nid yw’n gwneud synnwyr gramadegol. Felly, mae gwahaniaeth rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg oherwydd yr “16” ychwanegol yn y cyfieithiad.
2. Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn datgan bod y Cod a gyhoeddwyd wedi’i gyhoeddi gyntaf a’i ddiweddaru ddiwethaf ar 24 Mai 2019, felly mae rhywfaint o ddryswch wrth nodi fersiwn y Cod i’w ddirymu. Yn hyn o beth, y confensiwn yw cynnwys yr holl fanylion angenrheidiol gan gynnwys y dyddiad cyhoeddi, y fersiwn a’r ISBN a fydd yn helpu i nodi cyhoeddiadau megis Cod.
3. Yn y rhaglith, ym mharagraff 1, diffinnir Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel “y Ddeddf”. Fodd bynnag, ym mharagraffau 2 a 3 o’r Cod, a phennawd Pennod 3 o’r Cod, nid yw’r diffiniad bob amser yn cael ei ddefnyddio ond caiff teitl y Ddeddf honno ei ailadrodd yn llawn.
4. Yn y testun Saesneg, mae teitl y Ddeddf yn anghywir ym mharagraff 1 gan y dylai fod cysylltnod yn sillafiad “Wellbeing”. Yn nhestunau’r ddwy iaith, nodir teitl y Ddeddf yn anghywir hefyd yn y frawddeg gyntaf ym mharagraff 2 gan fod y flwyddyn “2014” ar goll (er y dylid defnyddio’r diffiniad ym mharagraff 2 ym mhob lle).
5. Ym mharagraff 4, ceir cyfeiriad at “adran 147” ond nid yw’n nodi lle y ceir y ddarpariaeth honno drwy gyfeirio yn unig at y gair ’Deddf’ wedyn. Mewn lleoedd eraill, mae’r cyfeiriadau yn cynnwys y geiriau hynny neu deitl llawn Deddf yn y paragraff wrth nodi’r ddeddf benodol lle y ceir adran, e.e., “adran 8 y Ddeddf" ym mharagraff 15, ac “adran 27 Deddf Plant 2004” ym mharagraff 49.
6. Ym mharagraff 9, mae’r testun Saesneg yn cyfeirio at “a code of practice issued under section 145 of the Act”. Yn y testun Cymraeg, cyfieithwyd “issued” fel “a gyflwynir” sy’n awgrymu ystyr “presented” neu “submitted” yn hytrach nag “issued”. Yn flaenorol, yn y datganiad dirymu ar ddechrau’r Cod ac ym mharagraffau 1 a 6, defnyddiwyd y gair “gyhoeddwyd” neu amrywiad gramadegol “Cyhoeddir” i gyfieithu “issued” yn yr un cyd-destun sy’n cyfleu ystyr “issue” (fel y byddai “dyroddir” a ddefnyddir yn y Ddeddf). Felly, mae “a gyflwynir” fel y cyfieithwyd “issued” ym mharagraff 9 hefyd yn anghyson â’r hyn a geir yn y paragraffau cynharach hynny yn nhestun Cymraeg y Cod neu a geir yn y Ddeddf. Mae’r un broblem yn digwydd yn ddiweddarach ym mharagraffau 15, 41, 43, 52 a 82 o’r Cod mewn cyd-destunau tebyg.
7. Ym mharagraff 15 ac mewn lleoedd eraill yn y Cod, yn y testun Cymraeg, mae “role” wedi’i gyfieithu fel “swyddogaeth” wrth gyfeirio at “the role of the director of social services”. Fodd bynnag, mae “role” wedi’i gyfieithu’n flaenorol fel “rôl” yn nheitl y Cod hwn ac yn y Cod blaenorol ynghyd â’r Gorchymyn Diwrnod Penodedig cysylltiedig ar gyfer y Cod hwnnw – OS 2016/414 (Cy. 132). Felly, mae’r dewis gair yn anghyson â’r hyn a geir yn nhestun Cymraeg teitlau’r Cod presennol a’r Codau blaenorol. Mae’n wir y gall “swyddogaeth” gyfleu ystyr “role” fel y nodir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, ond fe’i defnyddir hefyd i gyfieithu “function(s)” yn nhestun Cymraeg y Cod. O ganlyniad, mae’n golygu ei bod yn fwy anodd gwahaniaethu rhwng “role” a “function” yn nhestun Cymraeg y Cod. O ganlyniad, mae’n ymddangos y byddai’n well defnyddio “rôl” i gyfieithu “role” yn y cyd-destun hwn yn y Cod.
8. Ym mharagraff 45(d), mae’r testun Saesneg yn nodi “experiencing abuse of neglect” ond yn y testun Cymraeg mae wedi’i gyfieithu i olygu “experiencing abuse or neglect”. Felly, mae gwahaniaeth ystyr rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Mae drafftio darpariaethau eraill yn y testun Saesneg megis paragraff 45(c) yn awgrymu mai’r testun Cymraeg sy’n gywir.
9. Ym mharagraffau 81, 85 ac yn Atodiad 2, cyfieithwyd y term “well-being” fel “lles” yn y testun Cymraeg. Fodd bynnag, “llesiant” yw’r gair a ddefnyddir i gyfieithu “well-being” yn nhestun Cymraeg Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac mewn lleoedd eraill yn y Cod hwn. Felly, mae’n anghyson â therminoleg y Ddeddf a gweddill y Cod. At hynny, mae hefyd yn gallu drysu darllenydd y testun Cymraeg gan fod “lles” wedi’i ddefnyddio i gyfieithu “welfare” mewn lleoedd eraill yn y Cod hwn megis y cofnodion yn Atodiad 1 o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, Deddf Iechyd Meddwl (Yr Alban) 1984 a Deddf Plant 1989, ac yn Atodiad 2 yn y cofnod ar gyfer “Lles”.
10. Yn Atodiad 1, yn y golofn gyntaf o dan “Deddfiad”, nodir darpariaethau penodol o’r deddfiad neu defnyddir yr ymadrodd “Y Ddeddf gyfan”. Fodd bynnag, yn y cofnodion ar gyfer “Deddf Mabwysiadu 1976” a “Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002” ni nodir unrhyw adrannau penodol ac ni ddefnyddir yr ymadrodd “Y Ddeddf gyfan”, felly nid yw’n glir a geir y swyddogaethau yn y Deddfau cyfan hynny neu mewn unrhyw ddarpariaethau penodol ynddynt.
11. Yn Atodiad 1, yn y golofn gyntaf neu’r ail golofn, defnyddir yr ymadrodd “y Ddeddf” (neu amrywiad ar hynny) yn y cofnodion ar gyfer “Deddf Plant 1989”, “Deddf Addysg 1996” a “Deddf Galluedd Meddyliol 2005” i gyfeirio yn ôl pob tebyg at y Deddfau penodol hynny. Fodd bynnag, diffiniwyd y term “y Ddeddf” yn flaenorol i olygu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ym mharagraff 1 o’r Cod hwn. Felly, gallai defnyddio’r ymadrodd “y Ddeddf” beri dryswch yn y cofnodion hyn yn Atodiad 1 gan ei fod eisoes yn derm diffiniedig ar gyfer Deddf wahanol.
12. Yn Atodiad 1, yn y golofn gyntaf, ceir cofnod ar gyfer “Y Ddeddf hon” y mae’n ymddangos ei bod yn cyfeirio at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Fodd bynnag, diffiniwyd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 eisoes fel “y Ddeddf” ym mharagraff 1 o’r Cod hwn. Felly, dylid defnyddio’r term diffiniedig “Y Ddeddf” yng ngholofn gyntaf y cofnod yn hytrach nag “Y Ddeddf hon”. At hynny, defnyddiwyd “y Ddeddf hon” hefyd yn ail golofn y cofnod ar gyfer “Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984” wrth gyfeirio yn ôl pob tebyg at y Ddeddf honno yn hytrach nag at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sy’n ychwanegu at y dryswch.
13. Yn Atodiad 1, yn yr ail golofn ar gyfer y cofnod “Deddf Iechyd Meddwl 1983”, mae gwahaniaeth bach rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Mae’r testun Saesneg yn cyfeirio at “approved mental health professionals” ond nid oes gair i gyfateb i “professionals” yn y testun Cymraeg.
14. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi “Mae’r Cod Ymarfer Rhan 8 – Rôl y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (“y Cod Rhan 8”) a ddyroddwyd o dan Ran 8, adran 145(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn nodi’r gofynion amrywiol ar gyfer yr adroddiad blynyddol.” Gall hyn beri dryswch i’r darllenydd gan fod adran 145 o Ddeddf 2014 yn nodi’r pŵer i ddyroddi codau ac mai adran 144A o Ddeddf 2014 sy’n nodi’r gofynion ar gyfer yr adroddiad blynyddol.
Ymateb y Llywodraeth
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
17 Ionawr 2024